Mentrau Iaith Cymru
yn hyrwyddo'r
Gymraeg
yn y gymuned
 
  • dim
  • dim
  • Help / Cymorth

     

    Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru

     

    Gwefan y Llywodraeth >> Gwefan y Llywodraeth

     

    Cynllun Gweithredu y Llywodraeth 2012 - 2013 >> Gweithredu

     

    Iaith fyw: iaith byw

    Iaith fyw: iaith byw
    Strategaeth y Gymraeg 2012 - 2017

    Ar 1 Mawrth 2012 cyhoeddwyd y Strategaeth am y pum mlynedd nesaf >> Strategaeth

    Gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Mae'r strategaeth yn anelu at weld cynydd yn nifer y bobl sy’n gallu siarad yr iaith, ac sy'n ei defnyddio.

    Mae'r strategaeth hefyd am weld:

    • rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg
    • cynydd yn hyder pobl a'u rhuglder yn yr iaith
    • mwy o ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg fel rhan o'n treftadaeth genedlaethol a hefyd fel sgìl defnyddiol mewn bywyd modern
    • sefydlogi sefyllfa'r Gymraeg o fewn ein cymunedau
    • lle amlwg i'r Gymraeg ar draws y cyfryngau digidol.

    Er mwyn gwireddu hyn, mae'r strategaeth yn adnabod chwe maes strategol.

    1. Annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoedd
    2. Cynyddu'r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith
    3. Cryfhau safle'r Gymraeg o fewn y gymuned
    4. Cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
    5. Cynyddu a gwella gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion
    6. Cryfhau'r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg digidol.

    Mae'r strategaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru fel elfen hanfodol wrth greu siaradwyr Cymraeg y dyfodol - ar y cyd ag annog y defnydd o'r iaith o fewn teuluoedd.  

    Mae'r strategaeth yn rhoi pwyslais arbennig ar greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg, boed iddyn nhw eu cael yn y cartref neu drwy'r system addysg, ym mhob agwedd ar fywyd pob dydd.    

    Mae hon yn strategaeth ar gyfer pum mlynedd, o 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2017, ac yn disodli Iaith Pawb a gyhoeddwyd yn 2003.


     

    Strategaeth ar gyfer y Gymraeg 2011: datganiad ar y camau nesaf >> Datganiad

     

    Iaith Fyw: Iaith Byw 2010 >> Iaith Fyw

     

    Taflen Strategaeth 2011 >> Taflen

     

    Dogfen Iaith Pawb 2003 > Iaith Pawb

     

     

     

     

     




    Mentrau Iaith Cymru| Cysylltwch |
    MENTRAU IAITH CYMRU CYF. Y SGWAR. LLANRWST. CONWY. LL26 0LG Cwmni Cofrestredig Rhif:. 04134269