Cynlluniau Bwrdd yr Iaith Gymraeg
i Hybu'r Iaith yn y Gymuned
Cymorth ar fagu plant yn ddwyieithog
Llinell Gwaith Cartref
O fis Medi 2007 bydd gwasanaeth y Llinell Cefnogi Gwaith Cartref ar gael i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Lansiwyd y Llinell Cefnogi Gwaith Cartref gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn Nhachwedd 2005. Cynigiwyd y gwasanaeth yn wreiddiol i ysgolion cynradd yn unig, ond bellach mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ogystal.
Nod y Llinell yw cynnig cefnogaeth i rieni a phlant sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth gyda geirfa neu dermau Cymraeg, ynghyd â chymorth ymarferol ar faterion cyffredinol yn ymwneud â helpu gyda gwaith cartref.
Mae’r gwasanaeth ar gael o Ddydd Sul i Ddydd Gwener o 3 y prynhawn tan 9 y nos. Gellir cysylltu drwy ffonio 0871 230 0029 neu e-bostio post@gwaithcartref.com neu post@homeworkinwelsh.com.
Pwrpas y llinell yw cynnig cyngor ar sut i helpu gyda gwaith cartref i rieni di Gymraeg a rhoi cymorth gyda geirfa neu dermau Cymraeg i rieni sydd yn medru'r Gymraeg. Gellir cysylltu drwy ffonio
0871 230 0029 neu drwy anfon e-bost at
cymorth@galw.org neu
helpline@galw.org. Mae'r llinell ar agor o 9.30am i 8.00pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac o 2.00pm tan 8.00pm ar y Sul. Cost galwadau yw pris galwad lleol, er bydd costau o ffonau symudol yn amrywio. A does dim angen gofyn am ganiatâd rhiant cyn ffonio!! Gwefan >
Gwaith Cartref
Llinell Gyswllt Cymorth Gyda'r Gymraeg
Mae'r Llinell Gyswllt 0845 6076070 yn wasanaeth unigryw sy'n cynnig gwybodaeth gyffredinol am Gymru a'r Gymraeg. Mae'r Llinell yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
- cyfieithu hyd at 30 o eiriau
- golygu hyd at 75 o eiriau
- cyfieithu bwydlenni o bob math
- cynnig gwybodaeth am bob agwedd ar Gymru a'r Gymraeg
- cynnig gwasanaeth ymgynghorol ar enwau lleoedd yng Nghymru
A hyn oll yn rhad ac am ddim. Gwefan > Llinell Gyswllt
Iaith Gwaith
Amcan cynllun Iaith Gwaith yw annog busnesau, sefydliadau a’r cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog. Mae hefyd yn gyfle i bobl ddangos eu bod yn hapus i siarad Cymraeg neu’n dysgu’r iaith.
Bathodynnau
Prif gyfrwng y cynllun yw bathodyn. Mae dau fath o fathodyn – un i siaradwyr Cymraeg ac un i ddysgwyr.
Gwefan - Cymraeg Iaith Busnes
Cymraeg i Oedolion
Ydych chi am ddysgu Cymraeg neu wella'ch sgiliau Cymraeg? Mae'r holl wybodaeth ar gael i chi ar y Llinell Wybodaeth Cymraeg i Oedolion -
0871 230 0017. a gwefan
Cymraeg i Oedolion
Cynlluniau Gweithredu Iaith
Prosiectau arbrofol yw'r cynlluniau gweithredu iaith i hyrwyddo'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae angen hwb arni. Nod y cynlluniau yw cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith gymunedol a chymdeithasol drwy weithio gyda phobl leol a sefydliadau. Mae swyddogion y Bwrdd yn hwyluso'r gwaith drwy ddod â phawb at ei gilydd – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol – sydd â diddordeb mewn datblygu'r iaith yn y gymuned. Mae cynlluniau wedi'u sefydlu yn Abergwaun, Aberteifi, Rhydaman, Corwen, Casnewydd, Machynlleth, Rhuthun, Pwllheli a Phen Llŷn a Llanrwst. Os am ragor o fanylion am gynlluniau gweithredu iaith, cysylltwch â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 029 2087 8000.
Grantiau ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dosrannu dros £4m i gyrff cyhoeddus a gwirfoddol.
Grantiau bach
Nod y grant yw ysgogi sefydliadau i weithredu'n ddwyieithog a'u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg.
Mae’r grant yn cynnig cymorth ariannol - hyd at uchafswm o £1000 - i fusnesau a chyrff gwirfoddol sy’n dymuno cynhyrchu deunydd dwyieithog megis taflenni, llyfrynnau, arwyddion a gwefannau.
Am wybodaeth ynglŷn â'r grant ac er mwyn derbyn ffurflen gais, cysylltwch â: 01269 590216 -
sdoughton@sirgar.gov.uk fel arall, gallwch lwytho’r ffurflen gais i’ch cyfrifiadur.
Ffurflen
Cliciwch yma i fynd i wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg >>
NAWS AM LE : Cynllun Grant Arwyddion Dwyieithog
Cynllun ariannir gan Croeso Cymru yw
Naws am Le ac mae’n cyfrannu tuag at gostau arwyddion dwyieithog newydd (mewnol ac allanol), gan fusnesau bach a chanolig. Cynigir grantiau hyd at 50% am brosiectau cymwys dros £100 hyd at uchafswm o £1,000 i un busnes. Gweinyddir y grant gan CYMAD. Mae gweinyddiaeth y cynllun wedi symud i swyddfa CYMAD yn Dinas Mawddwy. Am ffurflenni cais/rhagor o daflenni neu wybodaeth bellach cysylltwch â;
Gwawr Davalan, Swyddfa Menter, Dinas Mawddwy. Machynlleth. Powys. SY20 9JA 01650 531 582
e-bost: gwawr@cymad.org
Rhai o bartneriaid Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Yr Urdd - Mudiad Ysgolion Meithrin - Mentrau Iaith - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru