Cyhoeddi enillydd Brwydr y Bandiau 2011

Cynhaliwyd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Menter Iaith Cymru a BBC Radio Cymru 2011 ar C2 BBC Radio Cymru ar Mai 4ydd, a chyhoeddwyd mai’r enillydd yw Siân Miriam o Ysgol Gyfun Llangefni, Sir Fôn. Bydd y disgybl 17 oed o Langristiolus nawr yn cael cyfleon i berfformio mewn amrywiol ddigwyddiadau cerddorol, recordio sesiwn i C2 BBC Radio Cymru a sylw yn y wasg fel rhan o’r wobr.
Wedi misoedd o gystadlu brwd ledled Cymru, daeth pedwar i’r rownd derfynol neithiwr, a phedwar gwahanol iawn o ran steil cerddoriaeth. Yn brwydro am y teitl yn erbyn Siân Miriam roedd Y Saethau o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Downhill, Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa, Cefneithin a Swnami, Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Enw cân fuddugol Sian Miriam yw Beth yw ystyr rhyfel?
Magi Dodd oedd yn cyflwyno rhaglen ar C2 BBC Radio Cymru gyda Rhodri Llwyd Morgan, cerddor a chanwr Cerrig Melys, y DJ Ian Cottrell, a Meilyr Gwynedd, canwr gyda’r band Sibrydion yn rhoi eu barn. Ond gan y gwrandawyr roedd y bleidlais i ddewis pwy fyddai’n ennill.
“Mae safon y bandiau sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth eleni yn arbennig o uchel, ac fe allai unrhyw un o'r pedwar fod yn enillwyr teilwng,” meddai cyflwynwraig C2 Magi Dodd cyn y rhaglen.
“Beth sy’n braf yw fod pob un yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r gystadleuaeth, ac mae rhywbeth at ddant pawb yno. Mae wir yn bleser dilyn datblygiad y bandiau yma dros gyfnod y gystadleuaeth – o’u gweld yn fyw, i’w danfon i stiwdios recordio proffesiynol ac yna gael gweld y band buddugol yn manteisio’n llawn o’r wobr ar lwyfan Maes B neu recordio’u sesiwn i C2.”
Cafodd y bandiau gyfle i recordio eu cân ar gyfer y rownd derfynol mewn stiwdio broffesiynol, ac wedi eu darlledu ar raglen C2, agorodd y llinellau ffôn i wrandawyr gael bwrw’u pleidleisiau.
Wedi i’r llinellau gau a’r pleidleisiau gael eu cyfri, cyhoeddwyd mai Siân Miriam oedd yr enillydd eleni, ac roedd y sgrechfeydd ben arall y ffôn yn arwydd clir bod Siân wrth ei bodd o glywed y newydd.
Ar raglen Dafydd a Caryl bore heddiw (Dydd Iau, Mai 5), yn ei chyfweliad cyntaf ers clywed ei bod wedi ennill y noson gynt, dywedodd Siân Miriam pa mor hapus oedd o dderbyn o wobr, a bod Caryl Parry Jones yn un o’r rhai a’i hysbrydolodd i ddechrau cyfansoddi a pherfformio, yn ddim ond 9 oed.
Disgrifiodd glywed ei bod wedi ennill fel “noson orau ‘mywyd i” gan ychwanegu am berfformio ym Maes B Eisteddfod eleni fel rhan o’r wobr, “ellai’m dweud pa mor gyffrous ydi hynna!”
Mae’r wobr gyfan yn cynnwys:
cytundeb i recordio Sesiwn i C2 BBC Radio Cymru
perfformio ym Maes B, Eisteddfod Genedlaethol eleni
erthygl tudalen lawn yn un o rifynnau'r cylchgrawn 'Y Selar'
sesiwn lluniau hanner diwrnod efo ffotograffydd proffesiynol
gwahoddiad i berfformio yng ngŵyl Huw Stephens, Gŵyl Sŵn 2011
perfformio ar lwyfan Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol eleni
cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
cyfle i berfformio ar Daith Ysgolion C2 2011
Am fwy am y gystadleuaeth ac i glywed y rownd derfynol ewch i bbc.co.uk/radiocymru
Rowndiau Cyn-derfynol Brwydr y Bandiau
Mae Mentrau Iaith cymru a C2 Radio Cymru yn trefnu Brwydr y Bandiau
Y Rownd Gyn-Derfynol
Beirniaid: Bethan Elfyn, Rhodri Llwyd Morgan, Hefin Jones
Nos Fawrth, Mawrth 24ain
Llongyfarchiadau i Smashing Diamonds am gyrraedd y rownd derfynol!
- Smashing Diamonds
- Plant Bach Annifyr
- Steffan Huw
- Y Cnobau
Nos Fercher, Mawrth 25ain
Llongyfarchiadau i Nevarro am gyrraedd y rownd derfynol!
- Nevarro
- Yr Angen
- Corn Bîff
- Osian Hedd
Nos Iau, Mawrth 26ain
- Crwydro
- Bettis Muff
- Cymdeithas yr Hobos Unig
- Ji-Bincs
Enillwyr Brwydr y Bandiau 2008
Llongyfarchiadau i'r Offbeats o Grymych ar ennill Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2008, gan guro Stone Free (o Aberystwyth) a Tempo (hefyd o Grymych) yn y rownd derfynol ar Orffennaf 2ail.
Mae'r wobr i'r band ifanc yn un sylweddol - byddant yn recordio Sesiwn i C2; yn cael ymddangos ar raglenni teledu Bandit ac Uned 5 ar S4C; perfformio yn Maes B, Eisteddfod Caerdydd 2008; chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru; yn ogystal a pherfformio ar Daith Bandit / C2 2008.
Rownd Gyn-derfynol 2008
Rownd Gyn-Derfynol ByB
21 Mai 2008
Pwy? Pryd? Lle? Manylion y rownd nesaf i gyd!
Mae 'r rowndiau rhanbarthol drosodd.
Amser felly i edrych ymlaen tuag at rowndiau cyn derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru 2008.
Mi fydd y rowndiau yn digwydd dros 3 noson ar C2 sef Nos Fawrth, Mercher a Iau 3 - 5 Mehefin rhwng 8 a 10 o'r gloch ar raglen Magi Dodd.
Er mwyn penderfynu pa fandiau fydd yn cystadlu pa noson, mi wnaeth Dafydd o'r band Coda ddod i stiwdios moethus C2 at Magi i dynnu enwau'r bandiau o het.
A dyma'r canlyniad:
Nos Fawrth 3 Mehefin
Ocsimoronig
Heretica
Tempo
Nos Fercher 4 Mehefin
Liam Rickard
Caswallon ap Cranc
Stone Free
Nos Iau 5 Mehefin
T.S.S
Road Kill
Yr Offbeats